Ymgynghoriaeth Coedyddiaeth

Wedi’i leoli yng Nghymru, rydym yn darparu ymgynghoriaeth Coedyddiaeth ar draws Prydain Fawr. Mae mwyafrif o’n cleientiaid yng Nghymru, ar hyd coridor yr M4 i Lundain, de-ddwyrain Lloegr a chyn belled i’r gogledd â Manceinion a Leeds, ond byddwn yn ystyried prosiectau yn unrhyw le.

Arolygon Diogelwch a Chyflwr

Mae arolygon Diogelwch a Chyflwr yn cael ei berfformio ar lefel y ddaear gan ddefnyddio’r dechneg asesu Coed Gweledol sydd yn cael ei defnyddio yn helaeth iawn, ar gyfer cleientiaid gydag ystadau mawr, neu nifer of ystadau gwahanol. Mae technegau desg efo data synhwyro o bell yn cael eu defnyddio i flaenoriaethu ardaloedd ar gyfer arolygiad.

Arolygon Cynllunio at Adeiladu

Rydym yn darparu ein harolygon coed gan ddefnyddio’r cyfrifiad priodol BS5827:2012, o gategoreiddio coed a gwarchod ardal gwreiddiau. Mae ein cyngor yn cynnwys argymelliadau cynlluniau sylfaen, cynllun lleddfiadau, trefn plannu newydd a hefyd cyfleoedd ar gyfer cadwraethau cynefin neu ychwanegiad lle’n bosib.

Technolegau

Yn ystod ein hymchwiliadau rydym yn defnyddio tomograff sonig Picus3, Resi-F 500-E Restiograff, pad cyffwrdd Panasonic FZ-G1 ac yn fuan iawn drôn DJI Mavik Air er mwyn recordio fideo hefyd. Rydym yn defnyddio’r meddalwedd mwyaf diweddar gydag ein caledwedd TG, mae hwn yn galluogi i ni ddarparu gwasanaeth effeithlon i’n cleientiaid.

Am Arolygon Coed Wilson

Mae ein gwasanaethau yr un mor amrywiol â’n gwybodaeth am goed, gallwn ni eich helpu gyda phob amrywiaeth o broblemau rheoli coed, p’un a ydych chi’n…

Pensaer sydd angen datganiad dull coedyddiaeth ar frys.
Prynwr cartref sydd angen adroddiad i helpu chi brynu eich cartref breuddwyd.
Ystâd fawr neu reolwr asedau sydd angen cyngor asesiad risg
Gweithiwr proffesiynol coedyddiaeth neu goedwigaeth sydd angen arolygon canfod pydredd o goed penodol.

Cysylltwch â ni heddiw, byddwn wrth ein bodd cael clywed gennych.

wilson tree survey arboricultural consultant

Pam defnyddio Arolygon Coed Wilson?

Trwy ddefnyddio Arolygon Coed Wilson byddwch yn derbyn cyngor gan un o’r ymgynghorwyr coedyddiaeth gymwysedig yn y Deyrnas Unedig a gallwch fod yn sicr eich bod yn cael cyngor o safon uchel. Mae Dr Richard Wilson, ein prif ymgynghorwr yn Goedydd Coed Siartredig a hefyd yn ymgynghorwr o’r Gymdeithas Coedyddiaeth Siartredig, gan osod ymhlith y gweithwyr proffesiynol coedyddiaeth gorau yn y wlad.

Er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau o safon, rydym yn credu’n gryf mewn ehangu ein gwybodaeth trwy hyfforddiant ychwanegol a chymwysterau newydd. Mae hwn yn cynnwys defnyddio technolegau newydd megis y tomograff sonig Picus3, ac i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid pob amser. Yn ychwanegol i hyn, rydym yn dilyn yn rheolaidd y codau ymddygiad priodol gan gynnwys y côd ethig sydd yn rhan o aelodaeth Cymdeithas Coedyddiaeth Siartredig yn ychwanegu eto i’r safon o wasanaeth yr ydym yn cynnig.

professional tree consultant

Dr Richard Wilson MICFor, RC Arbor A.

Coedwigwr Siartredig ac Ymgynghorydd Cofrestredig

PhD., Cert. Arb (RFS), Prof. Dip. Arb (RFS), M ArborA., RC ArborA, MICFor

Mae fy ngyrfa yn y diwydiant coedyddiaeth yn rhychwantu 16 blynedd, gan ddechrau trwy weithio fel gwirfoddolwr i’r Wildlife Trust, ac yna fel cyfarwyddwr a prif ddringwr ar gyfer C-Trees LTD, cwmni coedyddiaeth (llawfeddygaeth goed) nes i sefydlu gyda fy ngwraig, Sally. Dwi nawr yn gweithio fel Prif Ymgynghorwr a chyfarwyddwr i Arolygon Coed Wilson. Treuliais beth amser yn gweithio fel swyddog coed dros dro i gyngor Maidenhead a hefyd bwrdeistref brenhinol Windsor.

Mae gen i amrywiaeth eang o brofiad mewn arolygon coedyddiaeth gan ddadansoddi data a chreu adroddiadau manwl ar gyfer nifer o gleientiaid ar draws ystod lawn o gymwyseddau coedyddiaeth. Mae fy meysydd arbenigedd allweddol yn cynnwys:

  • Arolygon Diogelwch a Chyflwr
  • Asesiad Peryglon a Risg
  • Canfod Pydredd (tomograffeg a gwrthsefyll)
  • BS5837: 2012 Cynllunio adeiladu (gan gynnwys Goblygiadau Coedyddiaeth ac asesiadau Cyfyngiadau Coed, Cynlluniau Diogelu Coed, Lliniaru a Phlannu a Datganiadau Dull)
  • Arolygon Prynnu Cartref (Adroddiadau morgais)

Ein Meysydd Arbenigedd

Arolygon Diogelwch a Chyflwr

Mae arolygon Diogelwch a Chyflwr yn ystyried nodweddion biomecaneg, plâu, afiechydon, yr amgylchedd ac iechyd i asesu risgiau a gwneud argymhellion rheoli.

Arolygon Cynllunio Adeiladu

Gyda chynllunio adeiladu gofalus gallwn gyfrannu at gyflawni canlyniadau prosiect llwyddiannus lle mae coed yn ategu ac yn gwella'r amgylchedd adeiledig.

Adroddiadau Prynwr Cartref

Weithiau gall coed ger adeiladau gael effaith negyddol, mae'n bwysig deall hyn wrth ystyried y penderfyniad i brynu cartref neu adeilad.

Canfod Pydredd ac Arolygu o'r Awyr

Rydym yn cynnig sawl dull o archwilio coed yn fanwl: asesiad gweledol manwl gan ddefnyddio offer llaw, tomograffeg sonig Picus 3, gwrthsefyllograffeg microdrill Resi-dril IML, archwilio o'r awyr ac yn dod yn 2019, recordio fideo ar sail drôn.

Diogelu a Phrisio Coed yn Statudol

Gellir rhoi amddiffyniad i goed gan nifer o offerynnau cyfreithiol gan gynnwys Gorchmynion Cadw Coed, Statws Ardaloedd Cadwraeth a Deddf Coedwigaeth (1967). Gellir prisio trwy ddefnyddio System Helliwell a / neu CAVAT.

Difrod i Adeiladau

Mewn achosion lle gellir cysylltu ymsuddiant a difrod strwythurol â thwf coeden, mae angen ymchwiliadau manwl i helpu perchnogion eiddo i benderfynu ar y camau gweithredu cywir.

Anghydfodau Ffiniau a Chyfreithiol

Ein rôl mewn anghydfodau sy'n ymwneud â choed yw casglu tystiolaeth, disgrifio ac asesu prosesau cysylltiedig â choed a chyflwyno gwybodaeth gyfreithiol ragarweiniol i gleientiaid neu eu cynrychiolwyr cyfreithiol penodedig.

Technolegau

Rydym wedi buddsoddi llawer yn y technolegau ymchwilio diweddaraf gan gynnwys tomograffeg sonig Picus3, Resistograffeg a chasglu data electronig yn uniongyrchol yn y maes.

registered arboriculture consultant
arboricultural association member
arboricultural association member
constructionline bronze member
code of ethics

Siaradwch gyda ni heddiw

Os oes gennych cwestiwn neu os ydych yn edrych am cymorth, byddwn wrth ein bodd cael clywed gennych.


Beth mae ein Cleientiaid yn ei ddweud

Mae'n hynod o bwysig i ni fod ein cleientiaid yn hapus 100% gyda'r gwaith sydd wedi cael eu hymgymryd. Rydym wedi dewis tystebau gan wrth ein cwsmeriaid.

I engaged Richard to undertake a Tree Survey and Arboricultural Impact Assessment in support of our planning application and I’ve been delighted with the service that he’s provided. We had a really rough ride with the planners, but Richard was on hand throughout our consultation period to offer advice and support when I needed it, often responding to queries at short notice and out of standard business hours. His knowledge, professionalism, and general approach to his work is second to none and I’d recommend him in a heartbeat.

Chris Ruffle

We found Richard to be friendly, courteous and professional. He arrived exactly when he said he would and the THREATS survey was completed in good time. He appeared to have a real love for his work as well as a thorough knowledge of arboreal matters and was happy to chat informally about some of his findings over a cup of tea. The formal report was exactly as described and was returned to us within 24 hours. The report also included a few extras that we hadn't expected, including some useful information on new tree planting and soil preparation as this was something we had mentioned. I wouldn't hesitate to recommend Richard to anyone wanting a first class professional service.

Jo & Jerry Dominguez

© Hawlfraint 2024 Wilson Tree Surveys - All Rights Reserved | Gwefan gan United Studios